Croeso - Welcome

PWY YW ARWYDDION A DYLUNIO BOOMERANG

Wedi ei leoli yng nghalon mynyddoedd y Preseli, mae cwmni Arwyddion a Dylunio Boomerang yn gwmni cyffrous sydd wedi tyfu o nerth i nerth ers agor ei ddrysau yn Chwefror 2014. Mae ethos ein cwmni wedi aros yr un peth, sef i gynnig atebion ynglyn â’r ffyrdd gorau o farchnata ar gyfer busnesau ein cwsmeriaid.

Rydym yn angerddol dros gynhyrchu arwyddion sy’n dal sylw ac yn cynnig amrywiaeth eang o gynnyrch o gerdiau busnes i arwyddo cerbydau. Os ydych yn gwmni newydd, neu’n gwmni sydd wedi’i sefydlu eisioes, rydym yn trin ein prosiectau gyda’r un bwriad – sef dod â syniadau’n fyw, er mwyn sicrhau bod eich cwmni’n sefyll allan.

Rydym yn llwyddo i ddefnyddio’r dechnoleg orau er mwyn creu dyluniadau unigryw a chynhyrchion ar gyfer ein cwsmeriaid. Rydym yn cyfathrebu gyda’n cwsmeriaid yn rheolaidd drwy ebost drwy gydol y broses o gynllunio a dylunio, hyd nes bod eich arwyddion yn barod i’w gosod. Fel hyn gallwch weld yr holl ddyluniadau cyn eu hargraffu. Fodd bynnag, os hoffech drafod eich gofynion drwy ffonio, neu drwy alw yn ein swyddfa a siarad wyneb yn wyneb gyda un o’r dylunwyr, rydym yn ddigon parod i addasu.

Ymfalchiwn ein bod yn medru cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal. Gwobrwywyd y cwmni gyda gwobr ‘Shwmae’ Sir Benfro yn 2014 am ein parodrwydd i gynnig gwasanaeth dwyieithog gan annog defnydd y Gymraeg ymysg busnesau. Yn ychwanegol i hyn, rydym yn cynnig gwasaneth cyfieithu ar gyfer yr holl wybodaeth byddech eisiau cynnwys yn eich hysbyseb, a hynny er mwyn ennyn cwsmeriaid o bob rhan o Gymru.

Beth rydym yn ei wneud

Siaradwch gyda ni heddiw

Byddem wrth ein boddau i drafod eich gofynion. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth, neu i gael rhywun i gysylltu â chi, defnyddiwch y ffurflen ar y dudalen ‘cysylltwch â ni’, neu croeso i chi gysylltu’n uniongyrchol drwy ffonio neu ebostio

Cysylltwch â ni

Os oes unrhyw gwestiynau neu os hoffech wybod mwy am ein gwasanaethau, croeso i chi gysylltu drwy lenwi’r ffurflen isod.

    “We have worked with Boomerang now for 5 years and have developed a great working relationship with exceptional quality on all signage produced.”

    Heatherton World of Activities

    “Rydym wedi defnyddio Carwyn a’i gwmni ar gyfer arwyddion tu fewn a thu fas, yn ogystal ag adnoddau gweledol Rhifedd a Llythrennedd ar gyfer datblygu ardaloedd dysgu tu allan ar gyfer y Cyfnod Sylfaen. Mae Carwyn yn berson cyfeillgar ac mae’r gwaith mae’r cwmni yn cynhyrchu yn safonol tu hwnt. Mae’n cynnig gwasanaeth gwerth am arian ac yn medru creu adnoddau sy’n unigol i ni fel ysgol. Mae’n gosod yr arwyddion yn daclus ac o fewn amser cyflym iawn.

    Braf i weithio gyda chwmni sy’n cynnig gwasanaeth rhagorol i ysgolion Cymraeg.”

    Anita Tucknutt, Pennaeth - Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon

    “Boomerang did a great job with the signage for Crwst. They worked efficiently and to a professional manner and got the job done to a very high standard. Would highly recommend!”

    Crwst

    “We have worked with Boomerang now for 5 years and have developed a great working relationship with exceptional quality on all signage produced”

    Heatherton World of Activities

    “Ysgol Gymraeg Bro Allta have worked with ““Boomerang Sign and Design” for a number of years. They provide an excellent service and are able to tailor any design, plaque, sign to the school’s specification. We would certainly recommend them to others, not only for the quality of their signs and designs but also for their professional but yet very friendly service.”

    Ysgol Bro Allta. Caerphilly

    “We’ve been using Boomerang for our signage for a couple of years now and we can’t fault a thing. Great quality signs with a professional service. Can go to Carwyn with a vague idea and he will come up with exactly what we are looking for. Definitely recommend Boomerang.”

    Cliff Hotel